Gall Rheoleiddwyr Cymwysterau ddefnyddio gwefan SGC i:
- gael gwybod pa SGC sy’n bodoli yn y sectorau a’r galwedigaethau i’w cynorthwyo wrth gymeradwyo cymwysterau
- dangos i gyflogwyr a rhanddeiliaid sut i fynd at y SGC sydd eu hangen arnynt i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant neu i adnabod y cymwysterau y mae eu hangen arnynt
- sicrhau bod y CSS a’r sefydliadau pennu safonau yn ymgynghori â sampl cynrychioladol o randdeiliaid o bob un o 4 gwlad y DU
- rheoleiddio/monitro defnydd effeithiol o arian cyhoeddus i ddatblygu SGC a
gymeradwyir gan ddiwydiant ar draws y DU ar gyfer amrywiaeth o ddibenion
- sicrhau bod SGC ar gael ac yn gynhwysolar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd ar draws y DU
Gall cyrff/sefydliadau dyfarnu ddefnyddio SGC i:
- ddatblyu rhaglenni hyfforddiant
- datblygu cymwysterau a
- datblygu rhaglenni penodol i gyflogwyr
Gan bod SGC wedi cael eu datblygu gan gyflogwyr ar gyfer cyflogwyr, maent yn tynnu sylw at anghenion am sgiliau a dysgu diweddar mewn galwedigaeth neu sector penodol ac y maent felly yn adnawdd gwerthfawr i’w ddefnyddio er mwyn sicrhau bod cymwysterau yn cwrdd â gofynion a galwadau cyflogwyr.
Cliciwch yma i weld pa SGC sy'n cael eu hadolygu yn ystod y misoedd nesaf, a chael gwybod sut y gellwch chi ymuno yn y gwaith. Mae hun yn cynnwys cysylltiadau â'r ymgynghoriadau sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Cael gwybod mwy
Cwestiynau a ofynnir yn aml ynglŷn â SGC
Cewch weld sut gall SGC helpu:
Cewch weld sut mae SGC yn cael eu defnyddio gan:
Astudiaethau achos yn dangos manteision defynyddio SGC