Cyflogwyr a Busnesau

Ceisio mwy o wybodaeth am SGC

Chwilio’r basdata safonau yma

Sut gall SGC fod o fantais i'ch busnes?

Datblygir SGC ar gyfer cyflogwyr gan gyflogwyr trwy'r Cyngor Sgiliau Sector neu'r sefydliad pennu safonau perthnasol
 
Cynyddu cynhyrchiant busnes – defnyddio SGC i:

  • wella ansawdd nwyddau a gwasanaethau
  • gwella sgiliau eich gweithlu cyfredol ac yn y dyfodol
  • disgrifio'r sgiliau y mae eu hangen arnoch yn y gweithlu
  • asesu'r sgiliau sydd gan eich gweithlu ar hyn o bryd
  • gosod nodau ar gyfer perfformiad a gwerthuso
  • datblygu cynlluniau hyfforddi a recriwtio er mwyn llenwi unrhyw fylchau neu brinderau amlwg
  • cefnogi datblygu gweithdrefnau a systemau ar gyfer cyflawni tasgau penodol

Dewis a recriwtio - defnyddio SGC i:

  • leihau costau recriwtio trwy hwyluso dewis cyflogeion newydd
  • datblygu swydd-ddisgrifiadau/manylebau person gan nodi'r sgiliau allweddol ar gyfer swydd/rôl benodol
  • datblygu hysbysebion am swyddi
  • helpu gyda chadw staff (mae unigolion sy'n cael eu recriwtio a chanddynt y sgiliau priodol yn fwy tebygol o aros gyda'r sefydliad) 

Datblygu a hyfforddi staff - defnyddio SGC i:

  • adnabod anghenion sgiliau eich staff
  • datblygu cynlluniau hyfforddi a chyrsiau i gwrdd ag anghenion dysgu’r unigolyn ac anghenion sefydliadol
  • datblygu rhaglenni sefydlu
  • cefnogi datblygu hyfforddiant mewnol a fframweithiau cymhwysedd  gan fod SGC yn nodi’n fanwl beth sy’n arferion da
  • gwerthuso manteision cyrsiau hyfforddi allanol trwy ddiffinio’r deilliannau disgwyliedig
  • cysylltu â gofynion y cyrff proffesiynol

Meincnodi - defnyddio SGC i:

  • ddarparu sail ardderchog ar gyfer datblygu ymarferion meincnodi un ai yn fewnol neu i gymharu â sefydliadau eraill tebyg
  • cyfarfod â dangosyddion ar gyfer achrediad allanol, fel Buddsoddi mewn Pobl
  • sicrhau safonau cyffredin ar gyfer perfformiad ac ansawdd wrth bartneru â sefydliadau/asiantaethau eraill
  • arddangos cymhwysedd y sefydliad wrth dendro am brosiectau neu geisio am gyllid

 

 
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut gellwch ddefnyddio SGC, cysylltwch â’r Cyngor Sgiliau Sector neu’r sefydliad pennu safonau sy’n berthnasol i’ch sector chi.  
 
Cliciwch yma i weld pa SGC sy'n cael eu hadolygu yn ystod y misoedd nesaf,  a chael gwybod sut y gellwch chi ymuno yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau â'r ymgynghoriadau sy'n digwydd ar hyn o bryd.
 

Privacy Terms Copyright © UK Commission for Employment and Skills All rights reserved.