Cynghorau Sgiliau Sector a sefydliadau pennu safonau

Ceisio mwy o wybodaeth am SGC

Chwilio’r basdata safonau yma

Sut gall Cynghorau Sgiliau Sector a sefydliadau eraill sy’n pennu safonau ddefnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC)?

 
Mae’r Cynghorau Sgiliau Sector a nifer fach o sefydliadau eraill sy’n pennu safonau yn cydweithio â chyflogwyr a phartneriaid i ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y diwydiannau, y sectorau a’r galwedigaethau maent yn eu cwmpasu.
 
Gall Cynghorau Sgiliau Sector a sefydliadau pennu safonau ddefnyddio’r wefan hon i ddarganfod pa safonau eraill sy’n bodoli mewn gwahanol sectorau a galwedigaethau wrth adolygu a datblygu eu SGC eu hunain.
 
Mae’r CSS a’r sefydliadau pennu safonau yn datblygu, yn cynnal ac yn diweddaru SGC wrth i anghenion diwydiant newid, wrth i batrymau gweithio symud ac wrth i arferion gweithredu, deddfwriaeth a thechnolegau newydd gael eu cyflwyno.
 
I gael gwybod mwy ynglŷn â sut y gellwch ddefnyddio SGC a chael mantais o hynny, cysylltwch â’r Cyngor Sgiliau Sector neu’r sefydliad pennu safonau sy’n berthnasol i’ch sector chi.
 
Cliciwch yma i weld pa SGC sy'n cael eu hadolygu yn ystod y misoedd nesaf a sut gellwch chi ymuno yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau â'r ymgynghoriadau sy'n digwydd ar hyn o bryd.
 

Cael gwybod mwy

 

 
Cwestiynau a ofynnir yn aml ynglŷn â SGC

 

Cewch weld sut gall SGC helpu:

Cewch weld sut mae SGC yn cael eu defnyddio gan:

 

Astudiaethau achos yn dangos manteision defnyddio SGC

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

         

    Privacy Terms Copyright © UK Commission for Employment and Skills All rights reserved.