Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) yn disgrifio beth mae angen i unigolion ei wneud, ei wybod a’i ddeall er mwyn cyflawni swydd, rôl neu swyddogaeth arbennig
Mae SGC yn Genedlaethol oherwydd gallant gael eu defnyddio ymhob rhan o’r DU lle mae swyddogaethau yn cael eu cyflawni
Mae SGC yn Alwedigaethol oherwydd eu bod yn disgrifio’r perfformiad sy’n ofynnol gan unigolyn wrth gyflawni swyddogaethau yn y gweithle, h.y. yn ei swydd/galwedigaeth (fel plymar, heddwas, peiriannydd cynhyrchu)
Mae SGC yn Safonau oherwydd eu bod yn ddatganiadau o berfformiad effeithiol y cytunwyd arnynt gan sampl cynrychioladol o gyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill a’u cymeradwyo gan Banel SGC y DU
Datblygir SGC gan gyflogwyr ar gyfer cyflogwyr trwy’r Cyngor Sgiliau Sector neu’r corff pennu safonau sy’n berthnasol i’r sector
Cliciwch yma i weld pa SGC sy'n cael eu hadolygu yn ystod y misoedd nesaf, a chael gwybod sut y gellwch chi ymuno yn y gwaith. Mae hun yn cynnwys cysylltiadau â'r ymgynghoriadau sy'n digwydd ar hyn o bryd.